We'd like to remind Forumites to please avoid political debate on the Forum... Read More »
📨 Have you signed up to the Forum's new Email Digest yet? Get a selection of trending threads sent straight to your inbox daily, weekly or monthly!
Santes Dwynwen
Options
Nodyn sydyn i'ch atgoffa i beidio anghofio Diwrnod Santes Dwynwen yfory (25ain).
Welsh Patron saint of the Lovers tomorrow.
Digon o gardiau yn eich siop leaol llyfrau, digon o ddewis pan es i heddiw, un gret gyda "ti'n lysh" ar y blaen neu rhai traddodiadol!!
Welsh Patron saint of the Lovers tomorrow.
Digon o gardiau yn eich siop leaol llyfrau, digon o ddewis pan es i heddiw, un gret gyda "ti'n lysh" ar y blaen neu rhai traddodiadol!!


0
Comments
-
Da iawn. Rwy'n dy garu diSilence is more musical than any song0
-
Ydych chi'n mynd i Ynys Llanddwyn am dro fory?:j0
-
toozie wrote:Ydych chi'n mynd i Ynys Llanddwyn am dro fory?
Doedd gen i ddim syniad fod hanes Santes Dwynwen yn dod o Sir Fon! Nes i google 'Ynys Llanddwyn' a ges i'r wybodaeth drwy BBC Gogledd Orllewin mewn lluniau a sgwennu plant ysgol Niwbwrch a Dwyran. Da iawn hefyd! :T
O, a diwrnod Santes Dwynwen hapus i bawb! :beer:
Happy St Dwynwen's day tomorrow :beer:0 -
ydych chi'n i gyd yn dathlu dydd santes dwynwen A dydd sant ffolant?know thyselfNid wy'n gofyn bywyd moethus...0
-
Fyddai'n gwrthod gadael y Gwr wario ar rhosod cochion ar diwrnod Sant Ffolant achos or prisiau anhygoel o uchel...ond does na ddim rheswm pan nad ydwyf yn disgwyl bwnshiad neis heno!!!0
-
hoganllan wrote:Doedd gen i ddim syniad fod hanes Santes Dwynwen yn dod o Sir Fon! Nes i google 'Ynys Llanddwyn' a ges i'r wybodaeth drwy BBC Gogledd Orllewin mewn lluniau a sgwennu plant ysgol Niwbwrch a Dwyran. Da iawn hefyd! :T
O, a diwrnod Santes Dwynwen hapus i bawb! :beer:
Happy St Dwynwen's day tomorrow :beer:
Ond pwy oedd Dwynwen?Yn ôl yr hanes, un o ferched Brychan Brycheiniog oedd Dwyn neu Dwynwen. Roedd hi'n byw yn y chweched ganrif. Roedd hi'n ferch hardd iawn ac roedd llawer o ddynion ifanc wedi syrthio mewn cariad â hi.
Roedd un dyn ifanc, o'r enw Maelon, yn hoff iawn o Dwynwen ac roedd e eisiau ei chael hi'n gariad. Ond doedd gan Dwynwen ddim ddiddordeb yn Maelon. Felly, fe gipiodd Maelon hi a'i threisio.
Roedd Dwynwen yn drist iawn. Tra oedd hi'n crio, daeth angel ati. Dwedodd yr angel bod Duw wedi troi Maelon yn lwmp o iâ achos roedd e mor oergalon. Ond gofynnodd Dwynwen i'r angel ei droi e'n ddyn unwaith eto.
Dwedodd Dwynwen ei bod hi eisiau anghofio am Maelon ac am gariadon. Roedd hi eisiau gweithio i Dduw, meddai hi. Felly, anfonodd yr angel hi i'r Gogledd a daeth Dwynwen i Ynys Môn.
Aeth i fyw ar benrhyn bach - Ynys Llanddwyn ger Niwbwrch heddiw. Dyma lle buodd hi'n byw ac yn gweithio. Daeth hi'n sant ac yna'n nawddsant cariadon.
Yn y Canol Oesoedd, roedd cariadon yn arfer mynd i Landdwyn i weddïo am help Dwywen. Heddiw, os ewch chi i Landdwyn, gallwch chi weld olion eglwys a ffynnon Dwynwen.0 -
Dwi'n byw yn Dwyran!!! Neu Beirut fel mae o rwan!!!Debt at 23/01/2007
Dorothy Perkins £905
Capital 1 £0 (Claimed £560 ish back in charges - £200 limit!!)
Mastercard £1100
HSBC overdraft 1250
Natwest overdraft 1050
Littlewoods catalogue 850
Joined £2 club - £0 so far!!! :beer:0 -
croeso i MSE meggiemooknow thyselfNid wy'n gofyn bywyd moethus...0
-
cofiwch diwrnod Santes Dwynwen Dydd Iau!!!!0
-
This discussion has been closed.
Confirm your email address to Create Threads and Reply

Categories
- All Categories
- 351.2K Banking & Borrowing
- 253.2K Reduce Debt & Boost Income
- 453.7K Spending & Discounts
- 244.2K Work, Benefits & Business
- 599.2K Mortgages, Homes & Bills
- 177K Life & Family
- 257.6K Travel & Transport
- 1.5M Hobbies & Leisure
- 16.1K Discuss & Feedback
- 37.6K Read-Only Boards